The essential journalist news source
Back
26.
July
2017.
Atafaelu pum cerbyd modur oddi ar y ffordd yn ddiweddar mewn ymgyrch ar y cyd

Mae gyrru beiciau modur a chwadiau oddi ar y ffordd nad ydynt wedi'u cofrestru â DVLA ar ffyrdd neu dir parc yn anghyfreithlon ac mae camau gorfodi ar waith.

Bu Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru'n gweithio mewn partneriaeth i stopio ac atafaelu cerbydau modur oddi ar y ffordd sy'n achosi niwsans o ran sŵn i gymdogion lleol.

Dechreuodd yr ymgyrch ym mis Mai pan atafaelwyd a dinistriwyd tri cherbyd modur. Dilynwyd yr ymgyrch ddydd Sadwrn (22 Gorffennaf) pan atafaelwyd dau gerbyd arall.

Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu De Cymru, Joe Jones: "Gwyddom fod hyn yn fater difrifol i'r gymuned. Rydyn ni'n pryderu y gallai'r beiciau hyn sy'n mynd ar garlam frifo rhywun, a hefyd y sŵn sy'n niweidio ansawdd bywyd y trigolion. Dim ond yn ddiweddar, bu bachgen 13 oed yn lwcus iawn ar ôl iddo golli rheolaeth o'r cwad yr oedd yn ei yrru ar ffordd gyhoeddus yn Nhrelái a gyrru'n syth i mewn i fws a oedd yn dod tuag ato.

"Byddem yn annog y cyhoedd i adrodd am unrhyw wybodaeth yn ymwneud â beiciau oddi ar y ffordd drwy anfon e-bost atopredmana@south-wales.pnn.police.uk. Rydyn ni'n dibynnu ar y gymuned i sylwi ar y pethau hyn, ac os gall ddweud wrthym pwy sy'n gyfrifol am achosi niwsans o ran gyrru beiciau oddi ar y ffordd ac ym mhle, yna gallwn ni sicrhau bod ein swyddogion yn y lle iawn, ar yr adeg iawn. I adrodd achos parhaus, ffoniwch 101 neu 999 os yw'n argyfwng."

Mae'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury, wedi cymeradwyo'r ymgyrch ac mae'n mynd ati i annog y rhai hynny sydd â diddordeb mewn chwaraeon moduro i ymweld â'r cyfleuster ar gyfer beiciau oddi ar y ffordd y gellir ei ddefnyddio ym mhob tywydd, oddi ar Rover Way, a gwneud ymholiadau o ran sut i gofrestru i ymuno â'r clwb a defnyddio'r cyfleuster cyfreithlon hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Bradbury: "Mae defnyddio beiciau modur neu gwadiau oddi ar y ffordd mewn ardaloedd preswyl adeiledig yn wrthgymdeithasol ac rydym ni'n derbyn nifer o gwynion gan drigolion yn gofyn i ni weithredu.

"Y Cyngor sydd berchen ar barciau a mannau agored Caerdydd, ond nid oes gennym ni'r pŵer i stopio ac atafaelu'r cerbydau hyn. Felly, rydym ni'n cydweithio â'r heddlu i anfon neges glir na fyddwn ni'n goddef hyn ddim mwy ac y bydd gweithrediadau pellach yn dilyn.

"Mae'r holl gerbydau modur sydd wedi'u hatafaelu nad oedd ganddynt yswiriant, yn cael eu cadw mewn storfa ac mae'n debygol y cânt eu dinistrio.

"Mae gennym ni gyfleuster sydd am ddim i'w ddefnyddio ar hyn o bryd oddi ar Rover Way. Mae'n ddigon hawdd cofrestru a'r oll yr ydym yn ei ofyn yw bod y rhai brwd dros yrru beiciau modur sy'n defnyddio'r trac, yn gwirfoddoli eu hamser er mwyn helpu i redeg y cyfleuster. Felly i bob pwrpas, gwirfoddoli yn gyfnewid am ddefnyddio'r trac. Rydym ni'n cynnal gwiriadau ar y cerbydau i sicrhau eu bod nhw'n ddiogel i'w gyrru, sicrhau bod pob gyrrwr yn gwisgo offer amddiffynnol a bod y cyfleuster ar agor i bawb sy'n 7 oed neu'n hŷn."

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i gyrraedd cyfleuster MotoCross Caerdydd - ewch yma -<http://www.totalmx.co.uk/tracks/Cardiff-Motocross-Centre-MX-and-Minibike-Track.php>