The essential journalist news source
Back
21.
July
2017.
Adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol

Adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol

 

Cafodd gweledigaeth o ddatblygu cymunedau cysylltiedig ac adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol ei hamlinellu yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai (HRA) Cyngor Caerdydd ar gyfer 2017/18.

 

Mae'r cynllun yn disgrifio nod y Cyngor, sef cynyddu ystod ac ansawdd tai sydd ar gael ar gyfer pobl yn y ddinas yn ogystal â chanolbwyntio ar helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rwy'n ymrwymo i ddarparu tai o safon ar gyfer trigolion Caerdydd ac mae'n braf gweld bod gwaith ar y gweill ar ddau safle yn ein cynllun Cartrefi Caerdydd i ddarparu tua 600 o gartrefi fforddiadwy newydd ledled y ddinas.

 

"Rydym yn uchelgeisiol ac rwy'n hapus iawn i weld, ar ben hyn i gyd, y cafodd cyllid ychwanegol ei roi o'r neilltu er mwyn darparu 1,000 o gartrefi cyngor newydd dros y pum mlynedd nesaf.

 

"Ond rhan o'r darlun yn unig yw adeiladu cartrefi newydd. Rydym hefyd yn datblygu strategaeth caffaeliadau ac rydym wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i atal yr Hawl i Brynu yng Nghaerdydd. Fy ngobaith yw y bydd hynny yn diogelu ein darpariaeth o dai sydd wir ei angen ar genedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

 

Mae datblygu tai newydd ac adfywio tai ar gyfer pobl hŷn yn ffocws allweddol yn y cynllun busnes yn rhan o ymagwedd gydgysylltiedig yn y gymdogaeth i roi gofal a chymorth i bobl. Bu'r Cyngor yn adolygu addasrwydd ei lety cysgodol ledled y ddinas ac mae wedi dechrau moderneiddio ei stoc er mwyn diwallu anghenion presennol tenantiaid ac er mwyn darparu adeiladau sy'n addas at y diben.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Erbyn heddiw, mae pobl yn byw'n hirach ac rydym eisiau helpu trigolion i allu parhau i fyw yn eu tai eu hunain cyhyd ag y bo modd, a thai priodol o safon sydd wrth y craidd.

 

Mae'r cynllun busnes yn disgrifio sut mae'r Cyngor yn bwriadu cyflawni ei amcanion a gosod safonau dros y flwyddyn nesaf gan gynnwys cadw'r Safon Ansawdd Tai Cymru, cyflawni gwaith adfywio ystadau megis Maelfa yn Llanedeyrn, a pharhau i gyflwyno'r rhaglen cymunedau hynod lwyddiannus yn raddol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Fy nod i yw sicrhau bod Caerdydd yn parhau i fod ar flaen y gad o ran darparu tai ac mae'r cynllun hwn yn disgrifio sut byddwn yn gweithio tuag at gyflawni ein nodau a'n huchelgeisiau dros y flwyddyn nesaf, gyda'r nod o wella cyfleoedd i bobl yng Nghaerdydd i fyw mewn tai o ansawdd da gan ddiwallu eu hanghenion o ran tai.

 

Caiff y Cynllun Busnes HRA ei ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ar 27 Gorffennaf.