The essential journalist news source
Back
21.
July
2017.
Mae angen £24 miliwn i fantoli’r cyfrifon yng Nghyngor Caerdydd

Mae angen £24 miliwn i fantoli'r cyfrifon yng Nghyngor Caerdydd

 

Bydd rhaid i Gyngor Caerdydd ddod o hyd i £24miliwn er mwyn mantoli'r cyfrifon y flwyddyn nesaf.

Datgelwyd y ffigwr yn Adroddiad Strategaeth Gyllidebol 2018/19 yr awdurdod a fydd yn mynd at y Cabinet i'w gymeradwyo ddydd Iau, 27 Gorffennaf.

Yn ogystal, mae'r adroddiad yn datgelu bod y Cyngor yn disgwyl gorfod pontio bwlch yn y gyllideb o £74 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Nid oes dwywaith amdani, bydd pontio'r bwlch hwn yn y gyllideb yn heriol iawn, Yn enwedig yng ngoleuni'r arbedion mae'r Cyngor wedi'u gwneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf."

Bu'n rhaid i Gyngor Caerdydd wneud £200 miliwn o arbedion yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a £105 miliwn yn y tair blynedd diwethaf yn unig.

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Nid oes unrhyw opsiynau rhwydd. Mae'r Cyngor hwn wedi gwneud gwaith anhygoel o amddiffyn trigolion rhag grym llawn y toriadau dros y blynyddoedd diwethaf ond bob blwyddyn mae'n mynd yn fwy a mwy anodd.

"Mae angen i ni barhau i foderneiddio'r modd yr ydym yn gweithio er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau y gallwn ar gyfer trethdalwyr, ond hefyd mae'n rhaid i ni fod yn onest gyda'r trigolion. Mae rhai gwasanaethau y bydd rhaid iddynt gael eu dileu neu fe gânt eu hachub dim ond drwy weithio mewn partneriaeth gyda phreswylwyr neu sefydliadau newydd, neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o dalu am gostau. Nid yw'r cyfnod o gyni wedi dod i ben, er gwaetha'r hyn fyddwch efallai wedi'i glywed ar y newyddion ac rydym yn wynebu amser caled o'n blaenau."

Mae cyfanswm cyllideb cyfredol y Cyngor yn £587 miliwn, ond caiff bron 65% o hyn (£378 miliwn) ei wario ar hyn o bryd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r ddau faes yn wynebu pwysau yn sgil galw cynyddol wrth i boblogaeth y ddinas dyfu.

Mae pedwar peth y gall y Cyngor eu gwneud er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch yn y gyllideb:

• Cynyddu'r dreth gyngor;

• Defnyddio arian wrth gefn;

• Capio'r twf o ran y gyllideb i ysgolion;

• Gwneud arbedion.

Dywedodd y Cyng Weaver: "Mae pob 1% o gynnydd yn y Dreth Gyngor yn codi tua £1.3 miliwn, ac mae gyda ni £24m o ddiffyg eleni, felly ni fydd y Dreth Gyngor ar ben ei hun yn cau'r bwlch. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i arbedion a chreu incwm mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol er mwyn gosod y gyllideb hon. Bydd lefel yr arbedion y bydd yn rhaid i ni ddod o hyd iddynt yn cael effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau.

"Mae'r adroddiad hwn yn disgrifio ein strategaeth i osod cyllideb gytbwys, a byddwn yn gweithio ar y cynlluniau hyn ac yn ymgynghori â'r cyhoedd yn ddiweddarach eleni cyn ein penderfyniadau terfynol fis Chwefror nesaf. Dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn bod preswylwyr yn ymwneud â phroses y gyllideb ac yn rhoi gwybod i ni am yr hyn sy'n bwysig iddynt a lle hoffent i'w harian gael ei wario yn y blynyddoedd i ddod."

Bydd preswylwyr yn gallu cael dweud eu dweud ar y cynigion trwy ymateb i gwestiynau sy'n ymwneud â'r gyllideb yn yr arolwg Holi Caerdydd dros yr haf. Yn yr hydref, bydd ymgynghoriad mwy manwl pan fydd y trefniadau ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru yn gliriach.

 

Bydd yr Adroddiad Strategaeth Gyllidebol Lawn ar gael ar wefan y Cyngor o 5pm, dydd Gwener, 21 Gorffennaf, 2017. Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn http://cardiff.moderngov.co.uk/ieListMeetings.aspx?CommitteeId=151