Bydd un o gyfleusterau ailgylchu mwyaf Cymru yn agor yn swyddogol yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, gyda'r nod o gystadlu â dinasoedd gorau'r byd ym maes ailgylchu.
Y ganolfan ailgylchu gwerth £1.2 miliwn yn Ffordd Lamby yw'r fwyaf yn y brifddinas bellach, ac mae ganddi ddigon o le i groesawu wyth gwaith nifer y ceir y gallai eu croesawu gynt.
Mae bellach yn bosibl ailgylchu dau ddeg naw o gynhyrchion gwahanol yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd, a diolch i hynny mae gan Gyngor Caerdydd gyfle gwell i wella cyfradd ailgylchu'r ddinas. Y gobaith yw y caiff 6,000 o dunelli o wastraff eu hailgylchu yn ystod y flwyddyn nesaf, ac y bydd y ffigur yn cynyddu i 8,000 o dunelli yn y dyfodol agos.
O'r chwith, Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Huw Thomas, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Bob Derbyshire a'r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân a'r Amgylchedd y Cynghorydd Michael Michael yn yr agoriad heddiw
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Mae'r cyfleuster wedi cael ei ddylunio er mwyn i'r cyhoedd allu ailgylchu cymaint o gynhyrchion â phosibl ac mae hynny'n bwysig gan fod mwy a mwy ohonom yn ceisio gwneud popeth yn ein gallu i helpu'r blaned.
"Mae Caerdydd eisoes ar y brig o blith dinasoedd mawr Prydain am ailgylchu, ac rydym ni am iddi fod ar y brig ledled y byd. Does dim amheuaeth yn fy meddwl y bydd y safle anhygoel newydd yma yn mynd â ni rywfaint o'r ffordd tuag at wneud hynny."
Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed ailgylchu o 70 y cant ar gyfer pob awdurdod lleol erbyn 2025 - targed a fydd yn codi Cymru i'r un lefel â gwledydd gorau'r byd o ran ailgylchu.
Mae gan y safle newydd ar Ffordd Lamby ddeg o safleoedd aros a mwy na 20 o gynhwysyddion gwastraff gwahanol a all gasglu pob math o gynhyrchion i'w hailgylchu gan gynnwys plastig caled, carpedi a ffenestri UpVC.
Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Mae dyluniad y safle newydd yn debyg iawn i'n safle mawr arall ar Bessemer Close. Rydym yn ceisio osgoi'r hen ddyluniad hanner cylch sy'n gallu peri problemau wrth i bobl ddadlwytho deunyddiau. Mae hefyd yn ei gwneud yn anodd symud sgipiau allan pan fyddan nhw'n llawn.
"Rydym ni'n siŵr y bydd y safle newydd yn llwyddiant mawr o ran ein helpu i fwrw ein targedau ailgylchu ond rydym hefyd yn ystyried agor safle mawr arall yng ngogledd Caerdydd ar gyfer yr holl ddatblygiadau newydd yn y rhan honno o'r ddinas.
"Rhaid gosod y cyfleusterau hyn mewn ardaloedd heb breswylwyr, â chysylltiadau teithio da ar gyfer y cyhoedd.
"Rydym ni'n ymrwymo i gynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas ac i wneud Caerdydd yn ddinas werddach fyth."
Caiff y cyfleuster ei agor yn swyddogol gan Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire, ddydd Mawrth 18 Gorffennaf am 10am.
Nodiadau i'r Golygyddion
Dyma'r cynhyrchion y mae modd eu hailgylchu ar y safle hwn: llyfrau a chryno-ddisgiau; eitemau peryglus cymysg y cartref; batris; olew injan; olew coginio; tiwbiau fflworoleuol; silindrau nwy; beiciau; batris car; tecstilau; paent peryglus a phaent nad yw'n beryglus; eitemau trydanol bach; setiau teledu; oergelloedd a rhewgelloedd; pridd a cherrig; bwrdd plastr; plastigau caled; metel; gwastraff gardd cartref; pren; deunyddiau ailgylchu cymysg; carpedi; matresi; cardfwrdd papur; gwastraff cyffredinol y cartref; fframiau ffenest UpVC a theiars.
Mae rhagor o wybodaeth am CAGCau yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Mynd-a-sbwriel-ir-tomen/Dod-o-hyd-ir-domen-agosaf/Pages/Dod-o-hyd-ir-domen-agosaf.aspx
CAGCFfordd Lamby yw'r unig gyfleuster lle mae modd i'r cyhoedd logi fan ymlaen llaw. Mae modd gwneud hynny drwy gysylltu â thîm Cysylltu â Chaerdydd - 02920 872088 neu 02920 872087 os ydych am siarad yn Saesneg - ymlaen llaw, gan roi manylion am bryd rydych am ymweld, y cerbyd a'r cofrestriad.
Mae gan safle newydd Ffordd Lamby yr un oriau agor â'r hen safle. Mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Yn ystod misoedd yr haf, mae'r safle yn agor rhwng 7.30am a 6.30pm ac yn ystod y gaeaf mae ar agor rhwng 9.30am a 6pm.
Rhaid i chi ddod â dull adnabod sy'n profi eich bod yn byw yng Nghaerdydd.