The essential journalist news source
Back
13.
July
2017.
Y Cyngor yn Llofnodi’r Siarter ‘Marw i Weithio ’

[image]

Bellach, Caerdydd yw'r ail awdurdod lleol yng Nghymru i lofnodi siarter ‘Marw i Weithio' TUC Cymru.

Mae'r siarter wirfoddol ar gyfer cyflogeion yn rhestru ymrwymiadau sy'n sicrhau bod cyflogeion sy'n brwydro yn erbyn afiechyd terfynol yn cael eu diogelu'n ddigonol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae Cyngor Caerdydd yn falch o lofnodi Siarter y TUC. Mae'n creu fframwaith o arfer da i sicrhau bod cyflogeion sy'n cael diagnosis o afiechyd terfynol yn cael tawelwch meddwl a chefnogaeth o ran yr hawl i ddewis y camau gweithredu gorau iddyn nhw a'u teuluoedd gydag urddas a pharch".

Dywedodd y Swyddog Cenedlaethol dros TUC Cymru, Julie Cook: "Rwyf wrth fy modd bod Cyngor Caerdydd a'i undebau wedi llofnodi'r Siarter Marw i Weithio.   Mae cael diagnosis terfynol yn adeg anodd a phryderus tu hwnt i unrhyw unigolyn a'i anwyliaid. Mae'r siarter yn amlinellu llwybr cymorth clir i gyflogeion y sefydliadau hynny sy'n ei llofnodi, gan roi tawelwch meddwl a sicrhad bod y buddion yn sgil marw yn y swydd yn cael eu gwarchod ar gyfer eu hanwyliaid."

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ar y siarter ‘Marw i Weithio' ymweliad:https://www.tuc.org.uk/wales