The essential journalist news source
Back
3.
July
2017.
Portread coll yn dychwelyd i Lantrisant

[image]

Ar ôl mynd ar goll, mae portread o un o gyn Arglwydd Feiri Llundain, o Lantristant yn wreiddiol, wedi cael ei ddychwelyd i'w tref fagwraeth.

Cafodd y paentiad o Sir David Evans ei ddarganfod yn stordy'r Plasty gan staff Cyngor Caerdydd ac mae bellach wedi'i roi i Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant.

Dywedodd Y Gwir Anrhydeddus, Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire: "Mae'r paentiad hwn wedi drysu'n curaduriaid ers blynyddoedd lawer oherwydd does ganddo ddim plât enw na chyfeirnod i'w adnabod. Ond pan gysylltodd Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant i ni â ffotograff o Sir David, bu modd i ni adnabod y paentiad o'r diwedd. Rydyn ni'n teimlo ei bod ond yn iawn i'r paentiad gael ei edmygu unwaith eto gan bobl ei dref fagwraeth. Bydd modd ei weld yn Neuadd Gild Llantrisant yn dilyn gwaith adfer i'r lleoliad, lle daeth Evans yn Rhyddfreiniwr.

Roedd Syr David Evans yn un o feibion mwyaf enwog Llantrisant ar ôl dod yn Arglwydd Faer Llundain yn 1891 ond hyd heddiw nid oes portread ohono erioed wedi cael ei hongian yn ei dref fagwraeth.

[image]

Credir y cafodd y portread ei roddi i'r Arglwydd Bute a'i hongian am flynyddoedd lawer yn Neuadd Dinas Caerdydd ond doedd neb yn gwybod portread o bwy oedd. Ers 1995 roedd wedi'i storio'n ofalus ym Mhlasty Caerdydd.

Dywedodd y Clerc i Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant, Dean Powell: "Roedden ni'n falch dros ben ein bod o'r diwedd wedi dod o hyd i bortread o Syr David Evans ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Arglwydd Faer Caerdydd a'i staff yn y Plasty am eu gwaith caled a'u cymorth. Pan fydd gwaith ar ein Neuadd Gild yn dod i ben yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd mewn safle arbennig, sef ystafell llys Georgaidd yr adeilad. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu Arglwydd Faer Llundain gartref unwaith eto."

Mae Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant wedi treulio chwe blynedd i godi £1.1 miliwn i weddnewid Neuadd Gild y dref yn ganolfan dreftadaeth a chanolfan i ymwelwyr.