The essential journalist news source
Back
28.
June
2017.
Gwirfoddolwyr Hybiau’n ennill gwobr wirfoddoli genedlaethol

Gwirfoddolwyr Hybiau'n ennill gwobr wirfoddoli genedlaethol

 

Mae tîm o wirfoddolwyr sy'n helpu trigolion Caerdydd yn yr Hybiau Cymunedol wedi ennill gwobr genedlaethol am eu hymdrechion.

 

Cafodd y wobr ei dyfarnu iddyn nhw gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am eu gwaith yn y categori digidol, i gydnabod eu cymorth i gwsmeriaid yn 12 hyb cymunedol y ddinas.

Mae tîm o 60 o wirfoddolwyr yn rhoi cymorth er mwyn cynnal gwasanaethau'r Cyngor gan leihau problemau, ac mae'n rhoi o'i amser i drafod â chwsmeriaid unigol yn yr hybiau prysur.

Maen nhw'n helpu staff yn y Clybiau Swyddi ac yn y sesiynau Cynhwysiant Digidol drwy helpu cwsmeriaid i chwilio am swyddi a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio gyda'r Tîm Cyngor ar Arian drwy helpu cleientiaid i gwblhau ffurflenni budd-daliadau lles.

Mae gwirfoddolwyr yn helpu wrth gyfarch cwsmeriaid yn y derbynfeydd ac maen nhw'n eu cynorthwyo gydag ymholiadau. Mae eraill yn helpu plant mewn clybiau gwaith cartref.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o fod yn rhan o fywyd yr Hybiau a'n helpu i ymestyn ein gwasanaethau a rhoi mwy o help i bobl. Mae Caerdydd yn ddinas amlddiwylliannol ac amrywiol, ac mae'r tîm gwych o wirfoddolwyr yn adlewyrchu'r amrywiaeth hon - mae 18 o ieithoedd rhyngddynt felly maen nhw'n gallu helpu pobl yn eu mamiaith. Mae hynny'n gysur yn syth i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned.

"Ers Ebrill 2014, mae bron i 5,000 o oriau gwirfoddoli wedi eu cyflawni gan 268 o wirfoddolwyr yn ein hybiau ac rydyn ni'n hynod o ddiolchgar iddyn nhw am eu hamser a'u hymrwymiad, a'u cyfraniad nodedig at gynnal gwasanaethau'r Cyngor.

 

"Mae buddion mawr i wirfoddoli hefyd, wrth gwrs. Mae'n codi hyder a magu sgiliau ac mae 124 o'n gwirfoddolwyr wedi mynd yn eu blaen i gael swyddi cyflogedig sy'n dangos sut gall gwirfoddoli'n wirioneddol fod yn gam tuag at waith.

 

"Llongyfarchiadau mawr i'r tîm ar ennill y wobr hon."

 

Dywedodd Asifa Masood sy'n gwirfoddoli ddwywaith yr wythnos yng Nghlwb Swyddi Hyb Canol y Ddinas: "'Dw i wedi bod yn gwirfoddoli ers mis Awst. Dw i'n helpu pobl wrth chwilio am swyddi ar-lein a chyda'r rhaglen Paru Swyddi, yn helpu gyda ffurflenni cais ac ati.

 

"Ro'n innau'n chwilio am swydd a gan fod hynny'n gyffredin rhyngon ni, ro'n i'n meddwl y byddai'n syniad da helpu eraill yn y Clwb Swyddi. Mae'n ffordd da o gwrdd â phobl a ‘dw i hefyd wedi datblygu fy sgiliau. ‘Dw i'n dysgu pethau newydd drwy'r amser yma ac yn teimlo'n fwy hyderus o lawer nag o'n i gynt."

 

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gyda Chyngor Caerdydd, cysylltwch â'r cydlynydd gwirfoddoli, Tony Wakeham, ar 029 2087 1000 neu drwy e-bost argwirfoddoli@caerdydd.gov.uk