The essential journalist news source
Back
26.
June
2017.
Plant ysgol o Gaerdydd yn agor eu llygaid i fyd llawn cyfle

Mae cyfres o ymweliadau ag ysgolion cynradd yng Nghaerdydd gan rai o'r enwau mwyaf ym myd busnes, y celfyddydau a diwylliant wedi'u trefnu ar gyfer Wythnos Gyrfaoedd Agorwch Eich Llygaid eleni.

 

Mae wythnos Agorwch Eich Llygaid wedi'i chynllunio i godi dyheadau gyrfaol plant wrth iddyn nhw baratoi i symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

 

Gan ddechrau heddiw, bydd 27 o fusnesau a sefydliadau o Gaerdydd a'r ddinas-ranbarth ehangach yn ymweld â naw o ysgolion cynradd er mwyn siarad â phlant Blwyddyn 6 am y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael ar eu cyfer nhw.

 

Gan ddechrau fel syniad ymhlith staff Ysgol Gynradd Severn yng Nglan-yr-afon, cafodd Wythnos Agorwch Eich Llygaid ei chynnal am y tro cyntaf yn 2015, gyda chymorth busnesau gerllaw a phobl a oedd yn gysylltiedig â'r ysgol.

 

Drwy ddefnyddio cysylltiadau a grëwyd eleni o ganlyniad i Ymrwymiad Caerdydd, bydd mwy o fusnesau a sefydliadau yn cymryd rhan yn wythnos Agorwch Eich Llygaid eleni, gan ymweld â mwy o ysgolion a siarad gyda mwy o blant.

 

Mae Ymrwymiad Caerdydd yn sefydlu sut bydd y cyngor, gydag ystod eang o bartneriaid cyhoeddus, preifat ac o'r trydydd sector, yn cydweithio i sicrhau bod pob unigolyn ifanc yng Nghaerdydd mewn sefyllfa gadarnhaol ar ôl gorffen yr ysgol, boed hynny mewn cyflogaeth, addysg bellach neu hyfforddiant.

 

Dywedodd Ddirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n wych gweld wythnos Agorwch Eich Llygaid yn cael ei threfnu ar gyfer cymaint o blant a bod mwy o fusnesau yn rhan ohoni er mwyn sôn am y cyfleoedd gyrfaol gwych sydd gan Gaerdydd a'r ddinas-ranbarth ehangach i'w cynnig.

 

"Drwy agor eu llygaid i fyd o gyfleoedd, gallwn helpu'r plant i gychwyn edrych tua'r dyfodol ar gyfer pethau efallai na fyddent wedi eu hystyried fel arall.

 

"Drwy godi dyheadau ynghylch yr hyn y maent am ei wneud ar ôl tyfu, gallwn hefyd helpu'r plant i gyflawni ym maes addysg, a'u cymell i lwyddo fel y gallan nhw wireddu eu breuddwydion rhyw ddiwrnod.

 

"Mae Agorwch Eich Llygaid yn chwarae rhan bwysig yn helpu'r plant i gynnal eu brwdfrydedd dros ddysgu, gan sicrhau eu bod yn mynd yn eu blaenau i gyflogaeth, addysg bellach neu hyfforddiant ar ôl gadael yr ysgol ac elwa'n llawn ar economi ddeinamig a chyfoes Caerdydd."

 

Wrth ddisgrifio sut y daethpwyd ar draws y syniad yn gyntaf yn Ysgol Gynradd Severn, i gynnal wythnos Agorwch Eich Llygaid, dywedodd y Pennaeth Mrs Julie Morris: "Fe ddechreuon ni wythnos Agorwch Eich Llygaid yn 2015 er mwyn cyflwyno'r byd gwaith i blant Blwyddyn 6 ac i'w helpu nhw ddatblygu eu dyheadau eu hunain.

 

"Dechreuodd yn lleol, gyda'r staff yn Ysgol Gynradd Severn yn creu eu cysylltiadau eu hunain â busnesau gerllaw a gwahodd pobl i siarad gan ddefnyddio'r cysylltiadau hynny.

 

"Ar ôl cwrdd â'r cyngor i drafod rhai o'r pethau yr ydym ni yn eu gwneud i ymgysylltu â'r plant, daeth y cyfle i weithio drwy Ymrwymiad Caerdydd ac i ehangu Agorwch Eich Llygaid i gynnwys ysgolion eraill yn yr ardal.

 

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r sefydliadau adnabyddus a'r busnesau rhyngwladol hyn. Ac rwy'n gwybod y bydd y plant wrth eu boddau yn cwrdd â nhw hefyd. Bydd y cysylltiadau hyn yn cyflwyno cyfleoedd i ni gydweithio yn y tymor hir."

 

Bydd Cyngor Caerdydd (@CyngorCaerdydd), y naw ysgol gynradd a'r 27 o fusnesau a sefydliadau yn trydar drwy ddefnyddio #WythnosAELl17

 

Y naw ysgol gynradd yw:

Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd Kitchener, Ysgol Gynradd Landsdowne, Ysgol Gynradd Mountstuart, Ysgol Gynradd Parc Ninian, Ysgol Gynradd Radnor, Ysgol Gynradd Severn, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul, Ysgol Gynradd Mair Forwyn yr Eglwys yng Nghymru

 

Y 27 o fusnesau a sefydliadau yw:

Aldi, Atradius, BBC, Blake Morgan, Gleision Caerdydd, Castell Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Celsa, Circle IT, Eversheds Sutherland, Exchange Hotel, GE Aviation, ITV, Kier, Lovell Construction, Millennium FX, Morganstone, Network Rail, PricewaterhouseCoopers, Y Llu Awyr Brenhinol, Y Post Brenhinol, Techniquest, Croeso Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, Women in Poverty, Working Word