Cau ffyrdd ar gyfer Triathlon Caerdydd ddydd Sul
Mae digwyddiadau'r haf Caerdydd yn parhau y penwythnos hwn wrth i Driathlon Caerdydd ddychwelyd i Fae Caerdydd ddydd Sul (25 Mehefin).
Bydd y digwyddiad, sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd am y pedwerydd tro ac sydd wedi gwerthu allan, yn cynnwys 1400 o gystadleuwyr yn cystadlu yn y rasys Sbrint Cyflym, Sbrint a phellteroedd Olympaidd ar y ffyrdd fydd ar gau.
Er diogelwch y cystadleuwyr, caiff ffyrdd ym Mae Caerdydd eu cau o 6.30am tan 1.30pm.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 6.30am tan 11.30am:
East Tyndall Street (y gyffordd â Schooner Way i'r gyffordd â Stryd Herbert a Rhodfa Lloyd George)
Rhodfa Lloyd George (y gyffordd â Stryd Herbert i'r gyffordd â Phlas Bute)
Plas Bute (y gyffordd â Rhodfa Lloyd George i'r gyffordd â Stryd Pen y Lanfa)
James Street, Clarence Road, Avondale Road a Ferry Road.
International Drive i'r gyffordd ag Olympian Way
Olympian Way, Ffordd Watkiss ac i'r chwith ar Dunleavy Drive o'r gyffordd â Ffordd Watkiss i'r gyffordd â Pharc Manwerthu Dunleavy Drive.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 06:30am ac yn ailagor am tua 01:30pm.
East Tyndall Street (y gyffordd â Schooner Way i'r gyffordd â Stryd Herbert a Rhodfa Lloyd George)
Rhodfa Lloyd George (y gyffordd â Stryd Herbert i'r gyffordd â Phlas Bute.)
Plas Bute (y gyffordd â Rhodfa Lloyd George i'r gyffordd â Stryd Pen y Lanfa.)
James Street, Clarence Road, Avondale Road a Ferry Road i'r gyffordd â Clive Street.