The essential journalist news source
Back
22.
June
2017.
Ysgol yn croesawu cymuned i ddathlu Ramadan Iftar – torri ympryd

 

 

Ysgol yn croesawu cymuned i ddathlu Ramadan Iftar - torri ympryd

Cymerodd mwy na 100 o bobl o wahanol grefyddau ran mewn digwyddiad arbennig i ddathlu Ramadan Iftar - sef torri ympryd - mewn ysgol gynradd amlddiwylliannol yng Nghaerdydd.

Yn ystod Ramadan, cynhaliodd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Monica yn Cathays ei digwyddiad Iftar ei hun. Bu'n croesawu teuluoedd o'r gymuned i'r pryd torri ympryd adeg machlud yr haul.

Daeth mwy na 100 o Fwslemiaid, Cristnogion a phobl o grefyddau eraill i'r digwyddiad yn yr ysgol lle y newidiwyd dosbarthiadau yn ystafelloedd gweddïo a myfyrio.

Tanvier Ahmed, sy'n aelod newydd o gorff llywodraethu'r ysgol, yn aelod o Gyngor Mwslimaidd Cymru ac sy'n gwirfoddoli ym Mosg Dar-ul-Isra yn Cathays, a alwodd am i bawb weddïo wrth i'r haul fachlud.

Roedd y pryd i dorri'r ympryd yn cynnwys cawl, dêts ac iogwrt. Yn dilyn hwnnw aeth pawb i ystafelloedd gwahanol i weddïo, i wylio eraill a oedd yn gweddïo neu i fyfyrio'n dawel ar eu pennau eu hunain.

Daeth teuluoedd ag amrywiaeth o'u prydau bwyd er mwyn eu rhannu â phawb a chafodd cyfraniadau eu gwneud gan fosg Dar-ul-Isra a Bwyty Kasturi.

Pan ooedd pobl yn teimlo'n barod, aethon nhw i neuadd yr ysgol i fwyta.

Bu'r Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau yn rhan o'r dathliad torri ympryd yn yr ysgol, yng nghwmni'r Cynghorydd Christopher Weaver, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad.

 Dywedodd y Cynghorydd Merry: "Rwy'n meddwl mai syniad bendigedig oedd cynnal yr Iftar ac roedd yn wych gweld cynifer o bobl o'r gymuned yn cymryd rhan yn y digwyddiad arbennig.

 "O feddwl am yr holl ddigwyddiadau alaethus yn yr wythnosau diwethaf, mae rhywun yn gwerthfawrogi achlysuron sy'n dod â'n cymuned ynghyd cymaint yn fwy.

Dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Monica, Mrs Abi Beacon: "Roedd yr Iftar yn ddigwyddiad gwych i ddod â phawb sydd â chysylltiad ag Ysgol y Santes Monica ynghyd mewn cymrodoriaeth. Roedd yn fraint ymuno ag aelodau o gymuned yr ysgol yn ystod achlysur mor arbennig."

Dywedoddd Mrs Beacon fod yr ysgol wedi gweithio'n agos gyda'r gymuned grefyddol leol, gan gynnwys Cristnogion a Mwslemiaid, a'r nod drwy hynny oedd ehangu'r ddealltwriaeth o ffydd, diwylliant ac arferion. Roedd hefyd wedi cynnal digwyddiadau gweddïo aml grefydd a diwrnodau myfyrio yn dilyn terfysg ledled y byd.

Ychwanegodd Mrs Beacon: "Rwy'n wirioneddol ddiolchgar fy mod yn byw mewn gwlad lle y mae modd dathlu tebygrwydd a gwahaniaethau - boed rhwng Cristnogion neu Fwslemiaid - lle y mae'r un gwerthoedd o barch, parch tuag at Dduw, heddwch, cyfeillgarwch a gobaith yn cael eu rhannu."

Mae cyfanswm o 23 o ieithoedd yn cael eu siarad yn yr ysgol ar hyn o bryd ac yn achos 67% o blant mae Saesneg yn iaith ychwanegol. Mae 58% o blant yn Gristnogion, mae 31% yn Foslemiaid ac yn ogystal â hynny mae rhai plant sy'n arfer crefyddau gwahanol, er enghraifft Bwdhaeth neu Sîc, a rhai plant nad ydynt yn cysylltu eu hunain â chrefydd.