The essential journalist news source
Back
21.
June
2017.
Llysgennad Gwlad Pwyl yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf

 

 

 

Llysgennad Gwlad Pwyl yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf

 

Mae Llysgennad Gwlad Pwyl y DU wedi dod i Gaerdydd am y tro cyntaf.

Croesawyd y Llysgennad, Ei Arddechogrwydd Mr Arkady Rzegoki i'r Plasty gan Ddirprwy Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath.

 Dywedodd Mr Rzegoki, a oedd wedi dod i Gaerdydd gyda Mr Leszek Rowicki, Prif Gonswl Manceinion, wrth y gwesteiwyr ei fod wedi ymweld â phobl o gymuned Pwyleg Caerdydd gan ddweud eu bod yn hapus iawn gyda bywyd yn y ddinas ac yn mwynhau byw yma yn fawr iawn.

Soniodd y Llysgennad am ddatblygu cysylltiadau economaidd cryfach o bosib rhwng dinasoedd Caerdydd a Gwlad Pwyl, gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai Caerdydd ynghlwm wrth ddathliadau a digwyddiadau Diwrnod Etifeddiaeth Gwlad Pwyl pan fyddant yn digwydd y flwyddyn nesaf.

Meddai'r Cyng. Dan De'Ath: "Roeddwn yn falch iawn o gael cwrdd â Llysgennad Gwlad Pwyl, Ei Arddechogrwydd Mr Arkady Rzegoki yn y Plasty a'i groesawu ar ei ymweliad cyntaf â'n dinas hyfryd."

Ychwanegodd: "Roeddwn yn falch iawn o glywed y Llysgennad yn dweud bod cymuned Pwyleg Caerdydd yn mwynhau byw yma.

"Mae llawer o aelodau o gymuned Gwlad Pwyl wedi byw yma ers blynyddoedd maith ac wedi gwneud cyfraniad mawr at fywyd y ddinas ac yn dal i wneud hynny."

 Aeth y Dirprwy Arglwydd Faer ymlaen i ddweud: "Byddwn yn parhau i weithio i gryfhau ein cysylltiadau gyda chymuned Pwyleg y ddinas a hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth rhwng y ddau ddiwylliant."

 Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Sarah Merry, sef yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, wrth y Llysgennad am y cyfraniad mawr y mae plant ysgol o Wlad Pwyl yn ei wneud at amrywiaeth ysgolion yn y ddinas.