The essential journalist news source
Back
20.
June
2017.
Mae’r Ymgyrch Carwch Eich Cartref yn ôl

Mae'r Ymgyrch Carwch Eich Cartref yn ôl

Mae'r Ymgyrch Carwch Eich Cartref yn ôl - gyda mwy o lanhau, sesiynau hel sbwriel a sefydlu ‘rhandiroedd cymunedol' newydd yn y ddinas.

Yr wythnos hon bydd y glanhau yn digwydd ym Mhlasnewydd rhwng 19 - 23 Mehefin lle bydd 15 stryd yn cael eu glanhau'n ddwys. Yr wythnos nesaf byddwn yn symud i Adamsdown.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Rwy'n awyddus iawn i ehangu'r Ymgyrch Carwch Eich Cartref. Gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i strydoedd y ddinas os gweithiwn gyda'n gilydd i wella'r amgylchedd. Rhan o fy ngwaith yw gwneud yn siŵr fod ein strydoedd yn lanach a byddwn yn creu cynlluniau i wella golwg strydoedd Caerdydd, ond does dim dwywaith mai'r gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol sy'n caru eu cartrefi ac sy'n dod allan i'n helpu i gadw'n strydoedd yn lân yw gwir arwyr yr ymgyrch.

"Mae naw o grwpiau cymunedol gennym eisoes sy'n gweithio'n agos gyda'r Cyngor a Cadwch Gymru'n Daclus ar sesiynau hel sbwriel, gyda'r diweddaraf yn digwydd yn Rhiwbeina ar y penwythnos. Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr a roddodd o'u hamser i hel sbwriel yn haul yr haf ym Mharc Cae Delyn Ddydd Gwener. Gwerthfawrogwn eu hymdrechion yn fawr. Rwyf am iddynt wybod ein bod yn gwerthfawrogi eu hymrwymiad a'r balchder y maent yn ei ddangos yn eu cymdogaethau. Rwyf hefyd am i'r bobl sy'n taflu sbwriel ar ein strydoedd wybod y bydd y Cyngor hwn yn llym iawn arnynt. Rydym oll wedi cael llond bol o weld sbwriel hyd ein strydoedd a sbwriel anghyfreithlon wedi ei adael yn ein lonydd cefn. Digon yw digon."

Mae'r ymgyrch Carwch Eich Cartref nid yn unig yn ymwneud â chael y gymuned i gadw strydoedd y ddinas yn lân a thaclus ond hefyd yn ymwneud â gwella golwg y strydoedd. Yn y datblygiad diweddaraf, mae rhandiroedd cymunedol wedi eu gosod ar strydoedd yng Nglan-yr-afon, Adamsdown, Grangetown a Sblot. Mae amrywiaeth o blanhigion yn cael eu tyfu gan y cyhoedd gan gynnwys ffrwythau, perlysiau, saladau a llysiau. Caiff y planhigion yn y cyfleusterau newydd hyn eu tyfu a'u cynaeafu gan y gymuned i'w defnyddio.

Lynne Thomas, Cadeirydd Cadwch Sblot yn Daclus, sy'n goruchwylio'r blychau plannu cymunedol yn Sblot. Dywedodd: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn tri blwch plannu cymunedol a llwyth o berlysiau, ffrwythau a llysiau i'w llenwi nhw.  Mae'r ysbryd cymunedol yn wirioneddol gryf yn Sblot ac mae'r ymateb i'r blychau wedi bod yn anghredadwy.  Mae pobl wedi gwirfoddoli i ddyfrio a thendio'r planhigion a chadw golwg ar y blychau eu hunain.  Mae mor bwysig mewn maestref yng nghanol dinas i gynnig cyfleoedd fel hyn i dyfu pethau.  Nid yn unig y mae'n rhoi cynnyrch ffres i bobl eu cynaeafu, mae hefyd yn dod â'r gymuned at ei gilydd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael:  "Rwy'n benderfynol o adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch, i gael mwy o bobl yn rhan ohono, creu mwy o grwpiau cymunedol a phencampwyr sbwriel ac i ddarparu'r help a'r cymorth sydd eu hangen i wireddu hyn. Nid ymgyrch am fwy o lanhau yn unig yw hon, rydym am wella'r ysbryd cymunedol a'r balchder mae pobl yn ei deimlo yn y llefydd lle rydym oll yn byw a dyma pam ein bod wedi cyflwyno'r rhandiroedd cymunedol newydd. Mae'r adborth hyd yma yn awgrymu bod y cyhoedd wedi cymryd tuag atynt ac rwy'n gobeithio y cânt eu parchu gan holl drigolion yr ardaloedd hyn."

Mae holl wybodaeth yr ymgyrch ar gael ynhttp://www.cadwchcaerdyddyndaclus.com/ac os carai unrhyw un fod yn wirfoddolwr neu ddechrau grŵp cymunedol newydd yna dilynwch y ddolen hon:http://www.cadwchcaerdyddyndaclus.com/grwpiau-cymunedol/

Fis Medi y llynedd, dechreuodd yr ymgyrch ar gyrchoedd sbwriel ychwanegol mewn wardiau ledled y ddinas gan lanhau strydoedd, priffyrdd, parciau a thir cyngor. Mae'r holl waith yma yn ychwanegol i'n gweithgaredd arferol. Pan ddechreuodd yr ymgyrch roedd ffocws ar wardiau yn ne'r ddinas, gyda'r ymgyrch yn symud tua'r gogledd wedi'r Nadolig.

 

 

Ymgynghorydd y Cyfryngau Cyngor Caerdydd, Ian Lloyd-Davies Ffôn: 029 2087 2969

E-bost:ILloyd-Davies@caerdydd.gov.uk