The essential journalist news source
Back
16.
June
2017.
Torri’r Rhuban er mwyn agor ffordd gyswllt Ddwyreiniol y Bae yn swyddogol

Torri'r Rhuban er mwyn agor ffordd gyswllt Ddwyreiniol y Bae yn swyddogol

 

Cafodd Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae yng Nghaerdydd, sydd wedi costio £57 miliwn, ei hagor yn swyddogol ar Ddydd Iau.

 

Bydd y ffordd ddeuol, a enwir ar ôl y diweddar beiriannydd a chynllunydd Ewart Parkinson, yr oedd eu deulu'n bresennol yn seremoni agoriadol ar Ddydd Iau, yn gwella cysylltiadau â Bae Caerdydd, gan leihau amser teithio a helpu i liniaru tagfeydd yng nghanol y ddinas.

 

Bydd Ffordd Ewart Parkinson hefyd yn hybu'r economi leol trwy wella mynediad at Barth Menter Canol Caerdydd a gwella cysylltedd ar draws rhanbarth ehangach y ddinas.

 

Darparodd y ffordd, a gafodd ei chwblhau gan Dawnus Ferrovial Agroman yn brydlon ac o fewn y gyllideb, 13 prentisiaeth, dau leoliad profiad gwaith a swyddi ar gyfer naw o raddedigion a 27 o bobl a fu'n ddi-waith yn y tymor hir cyn hyn.

 

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, a dorrodd y rhuban i agor y ffordd yn swyddogol Ddydd Iau: "Rwyf wrth fy modd yn agor Ffordd Ewart Parkinson yn swyddogol; bydd yn darparu hwb pwysig i ganol dinas Caerdydd a'r Bae ill dau.

 

"Bydd cymudwyr yn elwa ar lwybr byrrach a llai o amser teithio, a bydd trigolion lleol yn gweld llai o draffig ac aflonyddwch yn eu cymdogaethau.

 

"Bu gwella seilwaith a chysylltiadau trafnidiaeth, lleihau amser teithio a chreu swyddi yn ymrwymiad hirdymor i'm Llywodraeth ac mae'r project pwysig hwn yn enghraifft arall o sut rydym yn cyflawni'r addewidion hynny."

 

Dywedodd Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd, Cyng Caro Wild: "Bydd y ffordd newydd yn lleihau amser teithio'n fawr, yn lleddfu tagfeydd a chysylltiadau i fodurwyr ac yn hwb gwych i Gaerdydd a'r Bae.

 

"Mae Caerdydd yn ffynnu ar hyn o bryd a rhagwelir bod twf poblogaeth y ddinas ymhlith y cyflymaf.

 

"Fel gweinyddiaeth, mae gennym ni weledigaeth fentrus ar gyfer hynny a does dim amheuaeth y bydd hynny'n cynnwys dulliau teithio cynaliadwy yn ogystal â chysylltiadau ffyrdd o ansawdd uchel."

 

Mae'r ffordd ddeuol sydd â dwy lôn yn cysylltu pen gorllewinol y ffordd â chylchfan Queensgate ac mae'r pen dwyreiniol yn cysylltu â chylchfan Ocean Way.