The essential journalist news source
Back
14.
June
2017.
Grŵp theatr yn dod â hanes Ynys Echni yn fyw

[image]

Bydd cwmni theatr o'r Porth yn diddanu ymwelwyr i Ynys Echni gyda sioe ryngweithiol sy'n dod â threftadaeth unigryw'r ynys yn fyw.

 

Ddydd Sadwrn yma bydd aelodau o grŵp Spectacle Theatre yn perfformio straeon pobl gan gynnwys Guglielmo Marconi a George Kemp. Byddan nhw'n taflu goleuni ar Ynys Echni yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan adrodd chwedlau'r ynys sydd ganrifoedd oed.

 

O harddwch blodau a chreaduriaid hynod yr ynys i'r barics o Oes Fictoria a'r bynceri rhyfel iasol, bydd cast o gymeriadau difyr yn datgelu hanes unigryw treftadaeth Ynys Echni.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae gan Ynys Echni hanes cyfoethog ac rwy'n meddwl bod dull dyfeisgar actorion Spectacle Theatre o ddod â'r gorffennol yn fyw yn wych. Llwyddodd Marconi a Kemp i ddarlledu'r signalau diwifr cyntaf ar draws y môr o'r ynys yn 1897. ‘Ydych chi'n barod?' oedd y neges Cod Morse syml. Wel, rwy'n annog pawb i fod yn barod am y daith theatrig hon sy'n trafod gem ym Môr Hafren. Yn sicr, fyddwch chi ddim yn cael eich siomi."

 

Mae'r cyfan yn cychwyn gyda thaith gyffrous ar gwch RIB o Fae Caerdydd am 10.15am, ac mae taith theatrig arall ar y gweill ar gyfer dydd Sadwrn 15 Gorffennaf.

 

Mae tocynnau ar gyfer y daith hon yn costio £34 i oedolion a £24 i blant. Rhaid i bob plentyn fod yn 7 oed neu'n hŷn ac yn 1.1m o daldra neu fwy. Archebwch eich tocynnau nawr arhttp://www.bayislandvoyages.co.uk/contactneu ffoniwch 07393 470476. I gael rhagor o wybodaeth ewch iwww.cardiffharbour.com/theatre-tour.