Bydd trigolion lleol yn elwa ar welliannau i gyfleusterau a mannau gwyrdd gwell yn rhan o’r prosiect hwn sydd wedi’i ddatblygu gan Gyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru ar y cyd â sefydliadau lleol eraill.
Yn dilyn cyfnodau ymgynghori yn 2016, bydd y gwaith yn cynnwys mainc gron newydd, bolardiau a phalmant newydd, gwelliannau i fynediad, bwrdd gwybodaeth a mannau ar gyfer blodau gwyllt i wella’r amgylchedd ac i leihau achosion o barcio anghyfreithlon.
Dywedodd
yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:
“Mae
gwella ansawdd mannau gwyrdd yn fodd i gael effaith wirioneddol ar gymunedau
lleol. Nod y gwaith ar Ruthin Gardens yw trawsnewid y man
cyhoeddus, nad yw'n cael ei ddefnyddio'n aml ar hyn o bryd, yn fan y mae modd i
bob trigolyn lleol ei fwynhau.”
Rhoddwyd
y cyllid ar gyfer Ruthin Gardens gan sefydliad Community Funding Resources Ltd
a chafodd y gwaith ei hwyluso gan Gyngor Dinas Caerdydd drwy’r cynllun Cronfa
Cymunedau Tirlenwi.
Mae ymdrechion ar waith i ddod o hyd i gyllid i gwblhau gwelliannau arfaethedig i Llanbleddian Gardens a Cogan Gardens.