The essential journalist news source
Back
14.
June
2017.
Iftar Ramadan – torri’r ympryd – dathliad cymunedol

 

Iftar Ramadan - torri'r ympryd - dathliad cymunedol

 

Mae'r Cynghorydd Ali Ahmed ac aelodau o'r gymuned Foslemaidd wedi gwahodd pawb yng Nghaerdydd i ymuno â nhw mewn dau ddigwyddiad arbennig i ddathlu Iftar Ramadan, torri'r ympryd.

 

Cynhelir y digwyddiadau cymunedol, gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, y tu allan i Neuadd y Ddinas ar ddydd Gwener, Mehefin 16 ac ar ddydd Gwener, Mehefin 23, rhwng 9pm a 10pm.

 

Yn rhan o Fis Sanctaidd Ramadan, mae Moslemiaid yn ymprydio yn ystod y dydd, gan dorri'r ympryd gydag Iftar Ramadan bob nos wrth i'r haul fachlud, ac mae'n arferiad gwahodd cymdogion i ymuno yn y dathliadau.

 

Yn ogystal ag estyn gwahoddiad i bawb yn y ddinas, mae'r trefnwyr yn arbennig o awyddus i'r digwyddiadau cymunedol fod o fudd i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd, ac mae'r dathliadau wedi'u cydlynu gyda Fyddin yr Iachawdwriaeth fel y gall pobl ddigartref yn y ddinas fwynhau pryd o fwyd a bod yn rhan o Iftar Ramadan. Hefyd, estynnir gwahoddiad arbennig i'r ffoaduriaid sydd wedi symud i Gaerdydd.

 

Drwy fanylu am y rhesymau dros gynnal y digwyddiadau, dywedodd y Cynghorydd Ali Ahmed: "Mae Mis Sanctaidd Ramadan yn ymwneud â rhannu, gofalu, cefnogi a rhoi. Mae digartrefedd yn brofiad dinistriol sy'n gwneud i bobl deimlo'n agored i niwed ac yn ynysig, felly rwy'n falch o ddweud y bu'r gefnogaeth y derbyniais gan bawb yn wych."

 

Bydd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne yn siarad yn y digwyddiad ddydd Gwener, Mehefin 16.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Gall byw ar y strydoedd fod yn fodolaeth unig, felly rwy'n falch y bydd y digwyddiadau hyn yn dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd i gysylltu, a manteisio ar y cyfle i ddathlu Iftar drwy rannu bwyd da a chwmni da. Rwy'n annog pobl i ymuno â ni yn y dathliadau hyn."

 

Rhoddir gair o groeso a gweddi fer am 9pm, yna caiff detholiad o fwyd blasus wedi'i baratoi gan y gymuned ei weini i bawb ei fwynhau.