The essential journalist news source
Back
7.
June
2017.
Gwasanaeth Coffa Babanod Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

Gwasanaeth Coffa Babanod Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

Bydd Gwasanaeth Coffa arbennig i Fabanod am 11.30am ddydd Sul, 25 Mehefin yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig.

Cefnogir y gwasanaeth coffa gan y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (Sands) ac fe'i arweinir gan y Parchedig Rhiannon Francis o Gaplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.

Meddai Heatherjane Coombs, Cadeirydd Sands Caerdydd a Chasnewydd: "Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd i gynnal y gwasanaeth gwych hwn sy'n galluogi rhieni i gofio eu babanod.   Rydym yn deall pa mor ddinistriol yw colli baban a bydd aelodau o'r grŵp wrth law i roi cymorth ar ôl y gwasanaeth os hoffech chi siarad â rhywun."

Gellir ysgrifennu cardiau coffa yn ystod y gwasanaeth ac ar ei ôl bydd cyfle i roi carreg fach goffa yn y fowlen goffa yn yr Ardd Fytholwyrdd.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch staff Gwasanaethau Profedigaeth Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 029 2054 4820.