The essential journalist news source
Back
2.
June
2017.
Datganiad Cyngor Caerdydd ynghylch y stori heddiw am y digartref

Datganiad Cyngor Caerdydd ynghylch y stori heddiw am y digartref


Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas: "Mae begera ar y stryd a digartrefedd yn fater sy'n effeithio ar bob dinas yn y DU ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed â'n partneriaid i gefnogi'r bobl yma sy'n agored i niwed a hynny fesul un drwy gyfrwng ein rhaglen allgymorth.

 

"Nid ydym yn gorfodi rhai heb gartref oddi ar y strydoedd ac ni wnaethom hynny erioed. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i roi terfyn ar gysgu ar y stryd drwy ddod o hyd i'r llety sydd ei angen ar bobl. Mae ein cynllun porth yn estyn cymorth i'r rhai hynny sy'n dymuno ei dderbyn, drwy gynnig llety amgen, ateb gofynion iechyd ac estyn cefnogaeth.

 

"Mae mwy o gyllid wedi'i ryddhau i Ganolfan Huggard i roi llety i'r rhai sy'n dymuno ei ddefnyddio trwy gydol penwythnos Cynghrair y Pencampwyr, oherwydd ein bod yn sylweddoli y gallai'r digwyddiad ddenu mwy o bobl ddigartref i'r ddinas. Ar gyfartaledd mae ein staff yn helpu 12 o gysgwyr stryd bob mis i ddod o hyd i lety, ond rhaid sylweddoli mai dim ond y rhai hynny sy'n dymuno cael cymorth y mae modd i ni eu helpu.

 

"Rydym yn gweithio gyda The Huggard, Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth a phartneriaid eraill i gynorthwyo cysgwyr stryd i ddod oddi ar y strydoedd ac mae 251 o lefydd hostel gennym i bobl sengl ddigartref ynghyd â 45 o lefydd brys eraill ar gael drwy gydol y flwyddyn."