The essential journalist news source
Back
1.
June
2017.
Cynghrair y Pencampwyr: Cau ffyrdd ychwanegol ar gyfer yr ymdrech derfynol i baratoi ar gyfer y Gêm

Bydd Heol y Castell, Caerdydd, ar gau i draffig o 12 o'r gloch yfory, dydd Gwener 2 Mehefin. 

Mae'r trefnwyr wedi gweithredu'r gwaith o gau ffyrdd 12 awr ymlaen llaw er mwyn sefydlu system rwystrau i reoli mynediad gwylwyr a'r cyhoedd at yr ardal ar gyfer ffeinal y Dynion ar ddydd Sadwrn, 3 Mehefin.

Bydd Heol y Castell wedi cau o gyffordd Heol y Gogledd/Boulevard de Nantes i Heol y Porth ble bydd yn ymuno â ffyrdd a fydd eisoes ar gau, sefHeol y Porth i Heol Ddwyreiniol y Bont-faen/Cyffordd Heol y Gadeirlan. 

Golyga hyn y bydd y llwybr o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i Heol y Gogledd ar gau i draffig o hanner dydd yfory tan o leiaf 03:30am ddydd Llun 5 Mehefin.

Bydd cerddwyr a beicwyr yn cael mynediad at y llwybr hwn ar gyfer y mwyafrif o'r cyfnod hwnheblaw amar ddiwrnod y gêm, dydd Sadwrn, 3 Mehefin, pan fydd rhai cyfyngiadau cyn y gic gyntaf ac ar ôl y chwiban olaf. Dros y cyfnod hwn bydd yr ardal o allanfa cerddwyr Gerddi Sophia ger pont yr afon hyd at gyffordd Heol y Castell â Heol y Porth ar agor i gefnogwyr â thocynnau yn unig. 

Bydd trefniadau ar gyfer cludiant busnes yn yr ardal ar waith hyd at hanner nos ddydd Gwener 2 Mehefin, a bydd modd i gludiant busnes gael mynediad graddol hyd at 3.30am ddydd Sul, 4 Mehefin.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru i gefnogi ffeinal Cynghrair y Pencampwyr. 

Dyma gyngor i'r cyhoedd sydd angen teithio:

  • Osgoi teithio gyda char drwy Ganol y Ddinas ddydd Gwener, 2 Mehefin.

  • Os oes angen i chi deithio drwy ganol dinas Caerdydd, dylech geisio gwneud hynny yn gynt yn y dydd.

  • Ystyriwch ddefnyddio'r parcio acherddedychwanegol sydd ar waith dros y cyfnod yn ne Bae Caerdydd. 

  • Os nad ydych yn gallu cerdded, beiciwch neu defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus fel opsiwn amgen i yrru. Efallai bydd gofyn i feicwyr ddod oddi ar eu beics mewn rhai mannau.

Os nad ydych yn gallu newid eich dull teithio, sicrhewch amser ychwanegol ar gyfer y daith. 

I gael y wybodaeth deithio ddiweddaraf, ewch iwww.cardiff2017.wales/travela dilynwch @cardiff17travel ar Twitter.  Gallwch gadw lle barcio ar safle parcio a theithio De Bae Caerdydd arwww.uclf17.co.uk.

Mae map diwygiedig o'r holl ffyrdd fydd ar gau ar gael yma: cardiff2017.wales/travel.

Mae Gorchmynion Rheoli Traffig wedi'u cyhoeddi ar wefan Cyngor Caerdydd. Mae'r gorchmynion hyn yn galluogi trefnwyr i gau ffyrdd os oes angen. Er nad oes disgwyl i'r ffyrdd fod ar gau yn ystod cyfnod llawn y gorchmynion hyn, gallent gael eu defnyddio os oes angen ar gyfer y digwyddiad terfynol neu at ddibenion diogelwch.