The essential journalist news source
Back
30.
May
2017.
Mynd i weld y Frenhines!

Mynd i weld y Frenhines!

 

Mae'r ddynes a achubodd Llyfrgell Treganna yn mynd i Lundain i weld y Frenhines.

 

Mae Edith Spackman, 94, o Drelái wedi'i hethol i fynd i Barti Gardd Brenhinol am ei hymdrechion yn ystod amser y rhyfel pan oedd hi'n llyfrgellydd ifanc, i atal Llyfrgell Treganna rhag llosgi pan oedd bomiau yn y ddinas yn 1941.

 

Nawr 76 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r hen fam-gu, Edith, yn paratoi i fynd i Lundain dydd Iau nesaf (1 Mehefin) i dreulio prynhawn hafol hamddenol yng ngerddi prydferth Palas Buckingham.

 

Meddai Edith: "Nid wyf yn gallu credu'r peth. Byddaf yn dihuno yn y bore ganfeddwl beth yw hyn i gyd?

"Dwi ddim eisiau meddwl gormod am y peth neu bydd arna' i ofn!"

 

Bydd Edith, sydd bellach yn byw yng Nghartref Gofal Tŷ Regency yn Nhrelái, yn mynd i Lundain gyda Tracy Hiscock, aelod o'r tîm yn Nhŷ Regency, mewn Rolls Royce Ghost, y mae'r cartref gofal wedi'i drefnu.

 

Bydd staff a phreswylwyr y cartref yn ffarwelio'r ddwy ar fore 1 Mehefin gan chwifio fflagiau Jac yr Undeb.

 

Meddai merch yng nghyfraith Edith, Ruth Fisher: "Mae hyn yn ardderchog. Rydym wastad wedi gwybod am y stori ac wedi siarad amdani ers blynyddoedd."

 

Pan gwympodd fom tân drwy do Llyfrgell Treganna ym mis Ionawr 1941, dechreuodd Edith bwmpio dŵr ar y tân i'w stopio rhag lledu.

 

Roedd Ysgol Uwchradd Treganna, oedd yn agos, wedi'i tharo'n ddrwg yn yr ymosodiad ac mae Edith yn cofio ysgerbwd adeilad ond diolch i'w hymdrechion, achubodd y llyfrgell.

 

Cofnodwyd stori Edith gyda staff o lyfrgelloedd Caerdydd gan gynnwys y llyfrgellydd datblygu, Richard Boardman, trwy ddefnyddio archifau a chofnodion gan gynnwys lluniau o'r gorffennol a'r presennol, darnau o'r papur newydd a hyd yn oed gofnodion cyflogaeth Edith i'w hatgoffa o'r cyfnod hwnnw.

 

Mae'r gwaith yn rhan o weithgareddau allgymorth y llyfrgell sy'n cynnwys mynd i gartrefi gofal lleol i gwrdd â phreswylwyr ac mae'n rhan o'r ffocws cryf y mae'r gwasanaeth yn ei roi ar yr agenda iechyd a lles.

 

Meddai prif lyfrgellydd Llyfrgelloedd Caerdydd, Nicola Pitman: "Dyma stori wych. Mae wedi bod yn fraint gweithio gydag Edith i gofnodi ei hatgofion o'r amser hwnnw ar gyfer cenedlaethau i ddod.

 

"Mae ein gwaith allgymorth yn dod â phobl ynghyd i annog sgyrsiau ac ysgogi atgofion fel y gallwn gadw trysorau fel stori Edith.

 

"Rydym yn falch ei bod wedi'i gwahodd i Barti Gardd Brenhinol ac yn gobeithio y caiff ddiwrnod gwych yr wythnos nesaf."