The essential journalist news source
Back
26.
May
2017.
Canolfan Croeso canol dinas Caerdydd i ail agor

Canolfan Croeso canol dinas Caerdydd i ail agor

 

Mae Canolfan Croeso (CC) yng nghanol dinas Caerdydd yn ail agor yr wythnos nesaf.

Y Ganolfan sydd wedi ei lleoli yn yr hen lyfrgell ar yr Aes yw'r man lle y gall ymwelwyr a thrigolion ill dau ddarganfod yr hyn sydd i'w weld a'i wneud yng Nghaerdydd gyda staff profiadol, amlieithog wrth law o 9am, ddydd Llun 29 Mai.

Mae'r ganolfan newydd yn ychwanegol i Ganolfan Croeso Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd.

Caiff ymwelwyr â Canolfan Croeso yr Aes eu hannog i fewngofnodi ar wefan CroesoCaerdydd.com gan ddefnyddio iPads a sgrin gyffwrdd fawr hygyrch.

Croeso Caerdydd yw'r sefydliad swyddogol i fynd ato sy'n hyrwyddo Caerdydd i weddill y byd fel dinas wych i fyw, gweithio, astudio a buddsoddi ynddi.

O hamdden i ddigwyddiadau mawr, twristiaeth fusnes a mewnfuddsoddiad, CroesoCaerdydd.com yw'r wefan swyddogol i fynd iddi sydd yn targedu ymwelwyr, preswylwyr a'r busnes twristaidd yn Ne Ddwyrain Cymru a'r cyffiniau, gyda miliwn o ddefnyddwyr unigol yn dod i'r wefan bob blwyddyn.

Mae CroesoCaerdydd yn siop un stop i ddod o hyd i bob peth sydd ei angen ar gyfer gwneud y gorau o ymweliad â Chaerdydd gyda chyfoeth o wybodaeth a syniadau ar ddigwyddiadau, lle i fwyta ac yfed, siopa, lle i aros a'r holl gyfleusterau chwaraeon sydd ar gael yn y ddinas.

Bydd digon o fapiau a thaflenni am ddim yn y Ganolfan ac, yn ogystal â darganfod yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd, bydd modd i ymwelwyr brynu Cerdyn Ymwelydd Caerdydd sydd â gostyngiadau ar gyfer llu o siopau, atyniadau a thai bwyta ac sy'n costio £4 ac sy'n para mis.

Mae Caerdydd yn croesawu tua 20 miliwn o ymwelwyr dydd bob blwyddyn ac mae'n hyb a phorth i'r ddinas-ranbarth ehangach ac yn aml yn borth i weddill Cymru i lawer o ymwelwyr.

Gydol y flwyddyn, mae'r llu o atyniadau, gwestyau, tai bwyta, bariau, theatrau a siopau yn y ddinas yn cynnig croeso cynnes a chyfoeth o wybodaeth i ymwelwyr a thrigolion.

Mae Canolfan Croeso yr Aes yn yr un adeilad ag Amgueddfa Stori Caerdydd a drws nesa i Bodlon, siop sy'n arbenigo ar werthu cynnyrch Cymraeg gan gynllunwyr, artistiaid, awduron, beirdd a chynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru. Mae'r Hen Lyfrgell, Canolfan Ddiwylliant Gymraeg Caerdydd, yn fan naturiol i leoli'r Ganolfan Croeso gyda'r holl weithgaredd a digwyddiadau sy'n mynd rhagddynt yno.

Anogir unrhyw un sy'n awyddus i wirfoddoli eu hamser i helpu gwaith y Ganolfan Croeso yng nghanol y ddinas, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr Amgueddfa Stori Caerdydd a rhai'r Hen Lyfrgell, i wneud hynny.

O Ddydd Llun 29 Mai, amseroedd agor y Ganolfan yn yr Hen Lyfrgell yw dydd Llun i ddydd Sadwrn, 9am tan 5pm a dydd Sul 10am tan 4pm.

Oriau agor Canolfan Croeso Canolfan Mileniwm Cymru yw dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am tan 6pm (7.30pm os oes sioe yn y Ganolfan) a dydd Sul 10am tan 4pm.

Dywedodd Heledd Williams - Pennaeth Twristiaeth, Marchnata Lleoliadau a Digwyddiadau Cyngor Dinas Caerdydd: "Rwy'n falch bod Canolfan Croeso yr Hen Lyfrgell yn ail agor. Wrth i ni baratoi ar gyfer yr haf a'r miloedd o ymwelwyr fydd yn heidio i'n dinas wych, bydd tîm o staff arbenigol wrth law i gynorthwyo ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd i ddarganfod pob dim sy'n digwydd yng Nghaerdydd."