The essential journalist news source
Back
25.
May
2017.
Dyddiau Mercher Llesiant

 

Dyddiau Mercher Llesiant

 

Bydd Hyb Ystum Taf a Gabalfa yn agor am ddiwrnod ychwanegol bob wythnos o fis nesaf ymlaen.

 

Oherwydd galw mawr amdano, bydd yr hyb newydd ar agor ar ddyddiau Mercher gan gynnig ystod o weithgareddau i bawb, er bod pobl hŷn yn benodol yn cael eu hannog i alw heibio.

 

O 14 Mehefin, bydd yr Hyb ar agor o 10am i 5pm bob dydd Mercher.

 

Bydd Dyddiau Mercher Llesiant yn cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd ac ystod o glybiau gan gynnwys garddio, ffilmiau, clybiau cymdeithasol, clwb llyfrau a chlwb cinio.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Ers iddo agor eleni, mae Hyb Ystum Taf a Gabalfa wedi bod yn llwyddiant mawr. Rydym eisiau sicrhau ein bod ni'n manteisio ar gyfleusterau ardderchog yr Hyb, felly rydym yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn gallu agor am ddiwrnod ychwanegol.

 

Nid yw "Dyddiau Mercher Llesiant" ar gyfer y genhedlaeth hŷn yn unig, bydd cwsmeriaid o bob oed yn gallu cael mynediad at yr ystod o wasanaethau sydd ar gael yn yr hyb. Y bwriad yw dod â'r gymuned ynghyd a chynnig mwy o fynediad at yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael."