The essential journalist news source
Back
22.
May
2017.
Gweithgareddau dros Hanner Tymor yng Nghaerdydd

Gweithgareddau dros Hanner Tymor yng Nghaerdydd
 

 

 

Deinosoriaid bach, fersiwn gerddorol o "Madagascar" sy'n ffefryn i blant a chyfle i dynnu llun ag un o dlysau mwyaf eiconig pêl-droed clwb ... dyma ychydig o resymau pam mai Caerdydd yw'r lle i fod dros Hanner Tymor y Sulgwyn.

 

I nodi ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd, bydd gŵyl am ddim yn cael ei chynnal yn Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd o ddydd Iau 1 Mehefin tan dydd Sul 4 Mehefin. Ymysg yr adloniant ceir cerddoriaeth fyw, gêm Pencampwyr ar gae pêl-droed ar y dŵr yn y bae a'r cyfle i dynnu llun â Thlws Cynghrair y Pencampwyr UEFA.

 

Mae’r arddangosfa “Deinosoriaid Bach” yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Sadwrn 27 Mai am 11 diwrnod. Dyma gyfle i dreulio amser gyda’r deinosoriaid ac i ddysgu am fywyd teuluol deinosor, gan gynnwys sut yr oeddynt yn gofalu am eu rhai bach.Ymhlith y cyffro Jwrasig mae sgerbydau deinosor mawr a replicâu, modeli o embryonau a wyau deinosoriaid y mae modd eu cyffwrdd, a hyd yn oed model o nyth deinosor enfawr sy’n mesur 2.5 metr!

 

Bydd pobl sy’n dwlu ar ffilm DreamWorks “Madagascar” yn cael trît go iawn dros yr Hanner Tymor...Cynhelir fersiwn gerddorol o anturiaethau Alex y Llew, Marty’r Sebra, Melman y Jiráff a Gloria’r Hipopotamws yn y Theatr Newydd o ddydd Mercher 31 Mai tan dydd Sul 4 Mehefin.Gweler amseroedd perfformio ar wefan y theatr.

 

Ddydd Sadwrn 27 Mai o 10am tan 4pm, bydd ceidwaid Canolfan Gadwraeth Fferm y Fforest yn cynnal Gŵyl Bywyd Gwyllt yr Haf.Bydd hwn yn ddiwrnod o weithgareddau bywyd gwyllt yn llawn hwyl megis dipio pyllau, chwilio am bryfaid a gwylio adar.  Mae’r Ŵyl Bywyd Gwyllt yr Haf yn Fferm y Fforest am ddim.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:“Yn sicr, mae rhywbeth i blant o bob oed yng Nghaerdydd dros Hanner Tymor y Sulgwyn.Fel dinas, rydyn ni'n lwcus iawn o gael cymaint o atyniadau parhaol megis ein parciau deniadol, castell mawreddog yng nghanol y ddinas ac ystod eang o gyfleusterau chwaraeon a hamdden.Does dim rheswm i fod wedi diflasu dros Hanner Tymor.Beth am gymryd rhan yn rhai o’r gweithgareddau yng Nghaerdydd a mwynhau’r gwyliau?"

 

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau yng Nghaerdydd ewch i:www.croesocaerdydd.com