Casglu gwastraff ailgylchu a gwastraff cyffredinol ar ddydd Sul o ganlyniad i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA
Bydd gwastraff ailgylchu a gwastraff cyffredinol yn ystod wythnos olaf y mis yn cael eu casglu ddiwrnod yn hwyrach oherwydd Gŵyl y Banc y Sulgwyn ddydd Llun 29 Mai.
Fodd bynnag, o ganlyniad i anhawster o ran traffig yn ystod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 3 Mehefin, cesglir gwastraff ar ddydd Sul 4 Mehefin o dai y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu fel arfer ar ddydd Gwener. Mae hyn ddeuddydd yn hwyrach, sy’n wahanol i weddill y Ddinas.
Dyma’r ardaloedd y bydd eu gwastraff ailgylchu a’u gwastraff cyffredinol yn cael eu casglu ar ddydd Sul 4 Mehefin (deuddydd yn lle diwrnod yn hwyrach):
Y Mynydd Bychan
Yr Eglwys Newydd
Rhiwbeina
Llanisien
Llys-faen
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Bydd y rhan fwyaf o drigolion yn gallu rhoi eu gwastraff cyffredinol a’u gwastraff ailgylchu allan ddiwrnod yn hwyrach fel sy’n arferol ar gyfer wythnosau Gŵyl y Banc. Ond, oherwydd bod y ddinas yn falch o gynnal Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA ar y dydd Sadwrn yn dilyn Gŵyl y Banc y Sulgwyn eleni, bydd y ddinas yn hynod brysur. Felly, y peth synhwyrol i ni ei wneud yw casglu o’r ardaloedd y cesglir eu gwastraff ar ddydd Gwener fel arfer, ar ddydd Sul 4 Mehefin. Y gobaith yw na fydd y trefniadau hyn yn achosi gormod o anghyfleustra. Bydd ein Timau Addysg a Gorfodi Gwastraff yn gweithio yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt i gynghori trigolion ynglŷn â'r newid hwn, fodd bynnag, er mwyn osgoi unrhyw ddryswch yn y dyfodol, byddwn ni'n argymell i gwsmeriaid gofrestru â'n gwasanaeth derbyn negeseuon atgoffa dros e-bost. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim i gofrestru, ac mae’n golygu y byddwch chi bob amser yn derbyn eich dyddiad casglu gwastraff ac ailgylchu noson cyn y casgliad."
I gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau casglu gwastraff ailgylchu a gwastraff cyffredinol ar ddiwedd y mis, ewch i adran Gŵyl y Banc ar ein gwefan.