The essential journalist news source
Back
17.
May
2017.
Mae Pryd ar Glud yn ail-lansio

 

Mae Pryd ar Glud yn ail-lansio

 

Bydd gwasanaeth Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd yn cael ei ail lansio yfory.

 

Fel rhan o lu o weithgareddau a drefnwyd gan y Cyngor a phartneriaid i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Demensia (Mai 14-20), bydd y gwasanaeth newydd yn gosod ei stondin yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ar Ddydd Iau 18 Mai gan gynnig llawer o wybodaeth a rhywfaint o dameidiau blasus i'r cyhoedd gael eu blasu.

 

Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnig Pryd ar Glud i bobl sy'n agored i niwed ledled y ddinas ers 1978 ond erbyn hyn mae brand newydd sbon gan y gwasanaeth ac mae ar gael i fwy o bobl nag erioed o'r blaen.

 

Yn ogystal â dosbarthu pryd o fwyd, mae'r gwasanaeth hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i gwsmeriaid a'u hanwyliaid gan roi cyfle iddynt ryngweithio'n gymdeithasol a chadw llygad ar eu lles.

 

Mae Pryd ar Glud yn dosbarthu prydau poeth a maethlon i gwsmeriaid ar draws y ddinas, a bellach gall pobl atgyfeirio eu hunain at y gwasanaeth neu gall aelodau o'r teulu, ffrindiau, cymdogion neu weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol eu hatgyfeirio at y gwasanaeth.

 

Gall cwsmeriaid sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf canlynol bellach dderbyn y gwasanaeth:

  • Trafferth i baratoi pryd o fwyd mewn modd diogel

  • Unigolion sy'n tueddu esgeuluso'u hunain neu fyddai'n bwyta deiet amhriodol heb y gwasanaeth

  • Methu siopa am fwyd

  • Unigolion sydd ag anabledd meddyliol neu gorfforol

  • Angen cymorth o ganlyniad i ymadfer ar ôl bod yn yr ysbyty neu salwch; gofalwyr yn sâl neu ar wyliau, neu brofedigaeth.

Mae'r gwasanaeth fforddiadwy yn darparu ar gyfer pobl o bob oedran, nid dim ond yr henoed a gall cwsmeriaid ddewis pa adeg a pha mor aml yr hoffent dderbyn prydau. Caiff dewis eang o brydau eu darparu ar gyfer amrywiaeth o ddeietau, cyflyrau a dewisiadau. gan ein tîm cyfeillgar, a'u dosbarth am ddim am gost o £3.90 y dydd.

 

Mae'r gwasanaeth yn darparu tawelwch meddwl i gwsmeriaid a'u teuluoedd ac mae'n ategu gwasanaeth ymateb a warden Cyngor y Ddinas, sef Teleofal Caerdydd sy'n helpu pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.

 

Mae Jean Sellers o'r Tyllgoed yn gwsmer Pryd ar Glud a Teleofal ill dau. Dosberthir prydau i'w chartref o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae hi'n hapus iawn â'r gwasanaethau.

 

Meddai Mrs Sellers: "Rwyf wedi cael cluniau newydd ac ni allaf sefyll yn ddigon hir i goginio i mi fy hun, felly mae'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn wych i mi. Rwy'n mwynhau'r prydau, ac mae Arthur sy'n eu dosbarthu werth y byd. Byddwn i'n sicr yn argymell y gwasanaeth."

 

Bydd lansiad Ddydd Iau hefyd yn cynnwys y cfle i bobl ddarganfod mwy am wasanethau'r Cyngor megis Teleofal Caerdydd gyda chynigion arbennig i gwsmeriaid sy'n tanysgrifio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Demensia ac hefyd gyfle i brofi ‘Archie' am ddim, dyfais monitro personol i bobl sy'n byw â chyflyrau gwwybyddol dirywiol.

 

Mae sawl mantais i'r ddyfais gan gynnwys rhybuddion 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn i'n Canolfan Derbyn Larymau (CDL) pan fo defnyddiwr yn gadael y cartref/neu fan arall ar adeg anarferol neu annisgwyl, modd o ddod o hyd i'r defnyddiwr a thrwy'r CDL, cydlynu ymateb priodol i'w helpu nhw'n gorfforol a chynnig dull o gyfathrebu rhwng y defnyddiwr a gweithredwyr y CDL.

 

Am fwy o wybodaeth ynghylch Archie ffoniwch 029 20234298 neu e-bostiwch Michelle.orfanoudakis@cardiff.gov.uk

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth Pryd ar Glud ac am Teleofal Caerdydd, ffoniwch 029 2053 7080, neu anfonwch e-bost at prydarglud@caerdydd.gov.ukneuteleofal@caerdydd.gov.uk